Padog B & B
4* Gwely a Brecwast yn Nyffryn Conwy
Mae Gwely a Brecwast Padog yn llety Gwely a Brecwast 4* wedi’i leoli mewn lleoliad hardd a thawel uchel gyda golygfeydd hyfryd o Ddyffryn Conwy a’r Afon Conwy.
Mae'r Gwely a Brecwast yn daith fer - neu 30 munud ar droed - o dref farchnad leol Llanrwst. Ychydig ymhellach ar hyd yr A470 mae pentref poblogaidd Betws-y-Coed sydd ar garreg y drws i Barc Cenedlaethol Eryri. Wedi’i amgylchynu gan dirweddau hardd a mynyddoedd cyfagos fel yr Wyddfa, mae Gwely a Brecwast Padog yn lleoliad delfrydol i archwilio’r gorau sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig.
Gyda 3 ystafell ar gael i'w harchebu, mae ein llety personol yn cynnig arhosiad cyfforddus gydag ystafelloedd ymolchi en-suite gyda cawod ym mhob ystafell, mynediad ar wahân i westeion i'r adeilad yn ogystal ag ystafell frecwast. Mae dwy leoliad i eistedd tu allan hefyd ar gael i westeion sy'n edrych dros y dyffryn ac yn cynnig golygfeydd panoramig syfrdanol o'r ardal gyfagos.
